Lleoliad:Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Hydref 2023
Amser:
09.30 -
11.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13506
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Ken Skates AS, Comisiynydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.30-09.45)
Rhag-gyfarfod preifat – Anffurfiol (09.45-10.00)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Datganodd Mike Hedges AS ei fod yn Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS).
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 - 21 Medi 2023
2.2 PTN 2- Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes: Amserlen y gyllideb 2024-25 - 21 Medi 2023
2.3 PTN 3 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Cyllid: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 27 Medi 2023
2.4 PTN 4 - Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd mewn perthynas â'r adroddiad: Taliag costau byw 2023-24 - 29 Medi 2023
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25: Sesiwn dystiolaeth
3.13.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25 gan y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid.
3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i ddarparu rhagor o wybodaeth am y canlynol:
· arolwg staff Comisiwn y Senedd;
· portffolio Cronfa Brosiectau Comisiwn y Senedd;
· costau parcio ceir; a
· Gweithgarwch ymgysylltu'r Senedd.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Bil Seilwaith (Cymru) - Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Oblygiadau Ariannol Bil Seilwaith (Cymru) a chytunodd arno gyda mân newidiadau.
7 Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion
7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft ar yr Adolygiad o'r Datganiad Egwyddorion a chytunodd ar fân newidiadau.